18 Mai 2018

I sylw:

Nick Ramsay AC

Cadeirydd 

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

Annwyl Mr Ramsay

 

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Ymchwiliad i’r Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif

Dymunwn gyflwyno’r sylwadau canlynol fel rhan o’r ymchwiliad dan sylw.

Rydym yn croesawu’r cyfle i gyflwyno barn ac yn falch bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal yr ymchwiliad er mwyn cynnig argymhellion i wella’r rhaglen cyn i gyllid Band B ddechrau ym mis Ebrill 2019.

Mae cyrraedd nod uchelgeisiol y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 yn gwbl ddibynnol ar gynyddu’r niferoedd sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly mae agor mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn elfen anhepgorol o’r siwrnai at y miliwn. Ni ellir cyflawni hynny heb sicrhau cyllid ychwanegol sylweddol i ehangu Addysg Gymraeg.

Mae RhAG eisoes wedi galw ar Awdurdodau Lleol i weithredu’n arloesol i ehangu addysg Gymraeg wrth iddynt lunio ceisiadau am gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru. 

Cynhaliodd RhAG waith ymchwil er mwyn dadansoddi beth fu lefelau gwariant Awdurdodau Lleol ar addysg Gymraeg ers sefydlu Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif yn 2011 (gw. y ddogfen atodedig).

Daeth hynny yn sgil argymhellion adolygiad annibynnol Aled Roberts o’r

Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-20 , sy’n argymell:

 

  y dylid cyhoeddi canllawiau pendant o ran dyraniad buddsoddiad cyfalaf i’r gyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg;

  y dylid adolygu amserlen y CSGAau i gyd-fynd â Rhaglen Cyfalaf Ysgolion

21ain Ganrif, Llywodraeth Cymru 

 

Mae’r ymchwil a gynhaliwyd gennym yn dangos bod nifer o siroedd, gan gynnwys Merthyr, Wrecsam, Fflint, Mynwy, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent, wedi gwario bron dim ar ysgolion Cymraeg ers sefydlu’r rhaglen yn 2011. 

Rydym yn cydnabod bod nifer o siroedd erbyn hyn wedi cyflwyno ceisiadau am gyllid Band B a bod sawl ysgol cyfrwng Cymraeg newydd arfaethedig yn rhan o’r cynigion. Serch hynny, mae’r darlun cenedlaethol yn gymysg ac mae cryn anghysondeb yn parhau. Yn wir, mae’n ofid nad oedd rhai Awdurdodau Lleol wedi cyflwyno cais oedd yn cynnig unrhyw brosiectau cyfalaf yn ymwneud â’r sector cyfrwng Cymraeg. 

Ar ben hynny, ymddengys na fyddai sawl Awdurdod Lleol wedi cyflwyno cynigion ar gyfer ehangu’r sector cyfrwng Cymraeg yn ystod y blynyddoedd nesaf, heb ymyrraeth swyddogion Llywodraeth Cymru fel rhan o’r trafodaethau i dderbyn Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

Rydym yn croesawu’r ffaith bod cronfa ychwanegol gwerth £30 miliwn wedi ei chreu, yn benodol i hyrwyddo amcanion polisi Cymraeg 2050, a bod hynny wedi cynorthwyo rhai siroedd i gyflwyno ceisiadau gan nad oes rhaid canfod unrhyw arian cyfatebol, fel sy’n orfodol ar gyfer cyllid Rhaglen Ysgolion 21 Ganrif.


Ar sail hyn, mae RhAG o’r farn bod angen adolygu’r rhaglenni cyllid cyfalaf sy’n ymwneud ag ysgolion, er mwyn sicrhau bod yr amcanion yn cyd-fynd â pholisi’r Llywodraeth mewn perthynas a’r iaith Gymraeg.

Mae angen eglurder o ran blaenoriaethau’r rhaglen ar gyfer y cyfnod ariannu nesaf ac awgrymwn y dylid cynnwys maen prawf penodol sy’n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol i gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg.  

Credwn hefyd fod angen eglurder ynglŷn â’r sefyllfa o ran yr agenda gwaredu lleoedd gweigion. Mae’n deg i nodi na fu blaenoriaethau y rhaglen flaenorol o unrhyw gymorth i Addysg Gymraeg ac mae’n rhaid ymateb i hynny.

Diolch ymlaen llaw am ystyried y sylwadau hyn.

Yn gywir

 

Ceri McEvoy